OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2011 Rhif 2475 (Cy. 267 ) (C.89)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Mesur Tai (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed gan Weinidogion Cymru, yn cychwyn y rhan fwyaf o Ran 2 (Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig) o Fesur Tai (Cymru) 2011 (“y Mesur”) ar 18 Hydref 2011 (“y dyddiad cychwyn cyntaf”) a’r gweddill yn dod i rym ar 2 Rhagfyr 2011 (“yr ail ddyddiad cychwyn”).
Hwn yw'r Gorchymyn Cychwyn cyntaf sy'n cael ei wneud o dan y Mesur.
Daeth Rhan 3 (Darpariaethau Atodol a Darpariaethau Terfynol) o'r Mesur i rym, yn unol ag adran 90(2), o 10 Gorffennaf 2011 ymlaen (deufis ar ôl i'r Mesur gael ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor).
Mae Rhan 2 o'r Mesur yn diwygio Rhan 1 o Ddeddf Tai 1996 ac Atodlen 1 iddi.
Mae effaith yr adrannau sy'n cael eu dwyn i rym ar y dyddiad cychwyn cyntaf fel a ganlyn:
Mae Pennod 1 o Ran 2 o'r Mesur yn ymwneud â pherfformiad Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Mae adrannau 35 a 36 o Bennod 1 yn cael eu dwyn i rym yn rhannol at ddibenion ymgynghori ynghylch gosod safonau perfformiad o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996 a dyroddi canllawiau ar safonau perfformiad o dan adran 33B o Ddeddf Tai 1996. Mae adrannau 35 a 36 yn cael eu dwyn i rym yn llawn ar yr ail ddyddiad cychwyn.
Mae Pennod 2 wedi ei chychwyn ac yn gwneud darpariaeth i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig roi, ac i Weinidogion Cymru dderbyn, ymgymeriadau gwirfoddol yn lle dulliau gorfodi eraill.
Mae Pennod 3 wedi ei chychwyn, ac eithrio adran 42 sy’n dod i rym ar yr ail ddyddiad cychwyn, ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer arolygon ac arolygiadau.
Mae Pennod 4 wedi ei chychwyn ac eithrio pan fo darpariaethau'n ymwneud â'r safonau perfformiad sydd i'w gosod o dan Bennod 1. Mae Pennod 4 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru gymryd camau gorfodi yn erbyn Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
Mae Pennod 5 wedi ei chychwyn ac yn cynnwys darpariaethau amrywiol gan gynnwys penodi rheolwr dros dro, symud swyddogion o swydd, a mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol. Mae'r rhan fwyaf o'r mân ddiwygiadau a’r diwygiadau canlyniadol yn yr Atodlen i’r Mesur yn dod i rym ar y dyddiad cychwyn cyntaf a'r gweddill yn dod i rym ar yr ail ddyddiad cychwyn pan fydd gweddill Penodau 1 a 4 yn dod i rym.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2011 Rhif 2475(Cy.267 ) (C. 89 )
TAI, CYMRU
Gorchymyn Mesur Tai (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011
Gwnaed 17 Hydref 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 90(2) o Fesur Tai (Cymru) 2011([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1.—(1)(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Tai (Cymru) 2011
(Cychwyn Rhif 1) 2011 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
18 Hydref 2011 yw “y dyddiad cychwyn cyntaf” (“the first commencement date”);
2 Rhagfyr 2011 yw “yr ail ddyddiad cychwyn” (“the second commencement date”); ac
ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Tai (Cymru) 2011.
Cychwyn darpariaethau penodol yn Rhan 2 o'r Mesur (Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig) ar y dyddiad cychwyn cyntaf
2. Mae darpariaethau canlynol Rhan 2 o'r Mesur, a'r Atodlen iddo, yn dod i rym ar y dyddiad cychwyn cyntaf.
Pennod 1 (Perfformiad)
(a) Adran 35 (Safonau perfformiad) at ddiben ymgynghori ynghylch gosod safonau perfformiad o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996;
(b) Adran 36 (Canllawiau ar safonau perfformiad) at ddiben ymgynghori ynghylch dyroddi canllawiau ar safonau perfformiad o dan adran 33B o Ddeddf Tai 1996;
(c) Adran 37 (Ymgynghori ynghylch safonau a chanllawiau);
(ch) Adran 39 (Canllawiau ynghylch cwynion); a
(d) Adran 40 (Ymgynghori).
Pennod 2 (Ymgymeriadau gwirfoddol)
(dd) Y Bennod gyfan.
Pennod 3 (Rheoleiddio)
(e) Y Bennod gyfan, ac eithrio adran 42 (Methu â rhoi hysbysiad i feddianwyr).
Pennod 4 (Gorfodi)
(f) Adrannau 50 a 51 (Pwerau gorfodi);
(ff) Adran 52 (Hysbysiad gorfodi: seiliau ar gyfer rhoi hysbysiad) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â safonau sy'n gymwys o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996;
(g) Adrannau 53 i 56 (Hysbysiad gorfodi - darpariaethau pellach);
(ng) Adran 57 (Cosb: Seiliau ar gyfer rhoi cosb) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â safonau sy'n gymwys o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996;
(h) Adrannau 58 i 63 (Cosb - darpariaethau pellach);
(i) Adran 64 (Iawndal: Seiliau ar gyfer dyfarnu iawndal) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â safonau sy'n gymwys o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996;
(j) Adrannau 65 i 71 (Iawndal - darpariaethau pellach);
(l) Adran 72 (Tendr rheoli) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â safonau sy'n gymwys o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996;
(ll) Adrannau 73 i 75 (Rheoli etc. - darpariaethau pellach);
(m) Adran 76 (Penodi rheolwr ar landlord cymdeithasol cofrestredig) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â safonau sy'n gymwys o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996; ac
(n) Adrannau 77 i 82 (Rheoli etc. - darpariaethau pellach).
Pennod 5 (Darpariaethau Amrywiol a Chyffredinol)
(o) Adrannau 83 i 87 (Penodi rheolwr dros dro ar Ansolfedd, Symud swyddogion o swydd, Penodi swyddogion newydd, Elusennau sydd “wedi cael cymorth cyhoeddus” a Mân ddiffiniadau); a
(p) Adran 88 (Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r darpariaethau yn yr Atodlen i’r Mesur sy’n cael eu cychwyn gan yr erthygl hon.
Yr Atodlen (Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)
(ph) Paragraffau 1 i 3; ac
(r) Paragraffau 9 i 20.
Cychwyn gweddill y darpariaethau yn Rhan 2 o'r Mesur (Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig) ar yr ail ddyddiad cychwyn
3. Mae'r darpariaethau canlynol yn Rhan 2 o'r Mesur, a'r Atodlen iddo, yn dod i rym ar yr ail ddyddiad cychwyn.
Pennod 1 (Perfformiad)
(a) Adran 35 (Safonau perfformiad) at bob diben sy'n weddill;
(b) Adran 36 (Canllawiau ar safonau perfformiad) at bob diben sy'n weddill; ac
(c) Adran 38 (Gwybodaeth o ran lefelau perfformiad).
Pennod 3 (Rheoleiddio)
(ch) Adran 42 (Methu â rhoi hysbysiad i feddianwyr).
Pennod 4 (Gorfodi)
(d) Adran 52 (Hysbysiad gorfodi: seiliau ar gyfer rhoi hysbysiad) at y dibenion sy'n weddill;
(dd) Adran 57 (Cosb: Seiliau ar gyfer rhoi cosb) at y dibenion sy'n weddill;
(e) Adran 64 (Iawndal: Seiliau ar gyfer dyfarnu iawndal) at y dibenion sy'n weddill;
(f) Adran 72 (Tendr rheoli) at y dibenion sy'n weddill; ac
(ff) Adran 76 (Penodi rheolwr ar landlord cymdeithasol cofrestredig) at y dibenion sy'n weddill.
Pennod 5 (Darpariaethau Amrywiol a Chyffredinol)
(g) Adran 88 (Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r darpariaethau yn yr Atodlen i’r Mesur sy’n cael eu cychwyn gan yr erthygl hon.
Yr Atodlen (Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)
(ng) Paragraffau 4 i 8.
Huw Lewis
Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru
17 Hydref 2011